Am Vestri

Mae Llywodraethau’r Deyrnas Gyfunol a Chymru wedi
gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer twf prosiectau
ynni adnewyddol. Mae cynhyrchu trydan heb gyfrannu
at gynhyrchu nwy tˆy gwydr yn helpu i frwydro yn erbyn
y newid hinsawdd sy’n hynod niweidiol.
Gogledd Cymru yw un o’r llu fannau yn y DG lle
gellir harneisio’r gwynt i ddarparu ynni glân ac mae
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor technegol
manwl i gynllunwyr a datblygwyr posibl cynlluniau
ynni gwynt.

Yn ei chyngor technegol, mae Llywodraeth Cymru’n
annog datblygwyr i gynnig manteision cymunedol i
gymunedau sy’n agos at ddatblygiadau ynni gwynt.
Gall manteision cymunedol fod yn sylweddol a
gallant gefnogi ystod eang o weithdrefnau cymunedol
a phrosiectau.

Yn 2007 bu trafodaethau ymarferol ynghylch
creu sefydliad nid-er-elw i weithredu dosbarthu
manteision cymunedol yn Sir Ddinbych a Chonwy.
Mae Cwmni Diddordeb Cymunedol, y Sefydliad
Vestri, wedi cael ei greu fel menter gymdeithasol.
Cwmni cyfyngedig yw’r Sefydliad ond mae’n wahanol
i weithdrefnau masnachol gan nad oes ganddo
gyfranddalwyr ac ni fydd byth yn talu difi dendau. Caiff
unrhyw weddillion dros dro nas dosberthir i achosion
da eu cario ymlaen i gefnogi prosiectau’r dyfodol.

O dan ei Gyfansoddiad mae gan y Sefydliad hawl
i gefnogi ystod eang o brosiectau cymunedol ac
achosion da. Mae’r prosiectau sy’n gymwys i wneud
cais am gefnogaeth ariannol yn cynnwys cynlluniau a
luniwyd i:

• Hyrwyddo adfywiad cymunedol
• Gwella addysg a sgiliau
• Cefnogi campau ac adloniant gweithredol
• Gwarchod yr amgylchedd
• Atodi darpariaethau Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol
• Dathlu’r Celfyddydau a Diwylliant
• Cefnogi’r iaith Gymraeg
• Cynnal adeiladau cyhoeddus lleol sydd o bwys
pensaernïol.

Bydd y Sefydliad yn cynnig grantiau i weithdrefnau
a phrosiectau ger datblygiadau ffermydd gwynt fel
y daw difi dendau cymunedol gan weithredwyr i fod.
Mae’r Sefydliad yn gwbl annibynnol ar y rhai sy’n
gweithredu’r ffermydd gwynt. Bydd y Sefydliad yn
gweithredu mewn ffordd agored a thryloyw a chaiff
holl daliadau grant y Sefydliad eu cyhoeddi. Yn ystod
2008 a chyn i unrhyw daliadau gael eu gwneud, bydd
ymgynghori cyhoeddus cyfl awn ynghylch cynlluniau
cyllido a blaenoriaethau. Bydd pobl leol yn ffurfi o
penderfyniadau a bydd Cynghorau Cymuned yn
chwarae rhan allweddol yn y broses hon. Caiff
Cynghorau Cymuned eu gwahodd i ddewis person i
wasanaethu fel aelod o Fwrdd y Sefydliad.