nol ir arciffCwmni Dosbarthu Buddion Cymunedol Gwynt – cytundeb arwyddion gydag Ynni Gwynt Cymru

Heddiw, lansiwyd cysyniad ariannol ddyfeisgar newydd i Gymru. Sefydlwyd VESTRI yn 2008 fel cwmni lles cymuned, di-elw er mwyn dosbarthu buddion cymunedol gan ddatblygwyr ffermydd gwynt i gymunedau ledled Cymru. Mae wedi ei seilio ar weledigaeth Alun Pugh, y cyn Aelod Cynulliad, “sefydlwyd VESTRI er mwyn buddsoddi difidend cymunedol a ddaw o ffermydd gwynt, mewn modd strategol er mwyn gwella bywydau pobl sydd yn byw mewn cymunedau Cymreig gwledig.”
Ar 24ain Tachwedd, 2009 Ynni Gwynt Cymru fydd y datblygwr ynni gwynt cyntaf i arwyddo cytundeb gyda Bwrdd VESTRI. Mae Ynni Gwynt Cymru wedi cytuno i VESTRI dderbyn, rheoli a dosbarthu buddion ariannol cymunedol o brosiectau ffermydd gwynt Ynni Gwynt Cymru yng Nghymru am 25 mlynedd, neu hyd bywyd eu ffermydd gwynt.
Yn ôl Eryl Vaughan, Cyfarwyddwr Ynni Gwynt Cymru: “Mae Ynni Gwynt Cymru yn awyddus i gefnogi sefydliad VESTRI er mwyn dosbarthu ein ymrwymiadau ariannu cymunedol ar gyfer ein prosiectau ffermydd gwynt. Rydym yn sylweddoli yr angen am sefydliad arbenigol, di-elw i roi a chydweddu ein cyfraniadau a gwneud y mwyaf o’r adnodd hwn ar gyfer ein cymunedau gwledig. Mae Bwrdd Vestri yn cynnwys unigolion uchel o brif bleidiau gwleidyddol Cymru ac yn esiampl nodedig o sut y gallwn gydweithio i sicrhau buddion o ddiwydiant newydd yng nghefn gwlad.
Dywedodd Cadeirydd VESTRI, Mick Bates, Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn “ei bod hi’n hanfodol i ddatblygu dull annibynnol a mwy strategol o roi buddion cymunedol o gynhyrchu ynni a sut i’w ddosbarthu ledled Cymru.”
Mae hyd at 1120 Megawatt o wynt wedi ei nodi ym Meysydd Chwilio Strategol TAN 8 yn unig, ac ar raddfa o £3000 y megawatt, y flwyddyn, gall hyn olygu £3,360,000 y flwyddyn ar gyfer prosiectau strategol a chymunedol. Mae VESTRI yn anelu at chwyddo hwn drwy arian cydweddu a nawdd i gronfa o hyd at £5 miliwn y flwyddyn, neu £84,000,000 dros 25 mlynedd. Mae’r model busnes hir-dymor a chynaliadwy hwn yn caniatáu i ni ddatblygu prosiectau a all sicrhau prosiectau lleol a strategol ledled Cymru.
Gall grwpiau cymunedol, elusennau, cymdeithasau anghorfforedig ac unigolion gael gafael ar arian gan VESTRI ar gyfer prosiectau sydd yn cyfrannu, er enghraifft, at leihau tlodi, datblygu addysg a sgiliau, hyrwyddo datblygiad gynaliadwy ac adfywio economaidd.
Dywedodd Janet Sanders, Cyfarwyddwr VESTRI fod “VESTRI mewn trafodaethau gyda datblygwyr ffermydd gwynt a chwmnïau cynhyrchu ynni eraill. Mae’r cysyniad yn cael ei dderbyn yn ffafriol, a gobeithiwn gyhoeddi cytundebau pellach mewn lansiad swyddogol yn y Senedd ar Chwefror 10fed 2010.”
