Rhestr a Gwybodaeth am ein Staff
Alun Pugh
Mae Alun Pugh yn un o sylfaenwyr Sefydliad Vestri.
Treuliodd 15 mlynedd yn gweithio mewn addysg bellach fel darlithydd coleg ac fel rheolwr cyn mentro i’r byd gwleidyddol. Bu’n cynrychioli Dwyrain Clwyd yn y Cynullad Cenedlaethol rhwng 2003 a 2007. Yn 2003 ymunodd â chabinet Rhodri Morgan fel y Gweinidog dros Ddiwylliant, Yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon.
Ar hyn o bryd mae’n Brif Weithredwr elusen amgylcheddol.
Mae’n fynyddwr brwd, ac mae wedi dringo a cherdded yn yr Alpau, yr Andes, Affrica ac yn yr Himalaya yn ogystal ac mewn ardaloedd gwahanol ym Mhrydain.
Janet Sanders
Mae Janet Sanders yn un o sylfaenwyr Sefydliad Vestri. Mae ganddi brofiad 15 mlynedd o weithio mewn ynni adnewyddol, datblygu cynaliadwy ac adfywio cymunedol. Cyn hyn mae wedi bod yn reolwr Cymru i fudiad rhyngwladol er hyrwyddo techololegau ynni, yn Gyfarwyddwr yng nghwmni Dulas a sefydlodd Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru.
Yn 2001 bu Janet yn cynorthwyo gyda sefydlu Grŵp Egni Cynaliadwy y Cynulliad Cenedlaethol (NASEG) sy’n grŵp rhwydweithio traws-bleidiol ac yn cyfarfod yn fisol yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Yn 2006 sefydlodd Janet ei chwmni ei hun, Reegen Egni a’r Amgylchedd. Mae’n gwmni ymgynghoriaeth amgylcheddol Cymreig sy’n darparu ysgrifenyddiaeth ac ymchwil ar gyfer Vestri.
Wynne Melville Jones
Wynne Melville Jones yw Cadeirydd y cwmni cyfathrebu StrataMatrix a sefylwyd ganddo yn 1979 ac sy’n gweithredu o swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd. Mae’n un o arbenigwyr amlycaf y byd cysylltiadau cyhoeddus a materion cyhoeddus yng Nghymru ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio gyda cwmniau preifat, mudiadau gwirfoddol a chyrff cyhoeddus ac mae ganddo ddealltwriaeth dwfn o’r ffordd y mae’r cyrff gwahanol hyn yn gorgyffwrdd ac yn rhyngweithio.
Mae hefyd yn Llywydd Anrhydeddus Urdd Gobaith Cymru ac yn un o sylfaenwyr Golwg Cyf, y cwmni o Lanbed sy’n cyhoeddi cylchgronau ac yn darparu newyddion ar-lein.
Dewi Jones
Cyn ymddeol roedd Dewi Jones yn swyddog mewn llywodraeth leol. Mae wedi bod dros y blynyddoedd yn ffigwr amlwg ym myd y diwylliant traddodiadol Gymreig ac yn y ‘pethe’, yn enwedig yn y byd eisteddfodol.
Mae treulio llawer o’i amser y dyddiau hyn yn ymhel â threfnu yr Wyl Cerdd Dant Cenedlaethol ac mae hefyd yn Ynad Heddwch ar y fainc yn Sir Ddinbych
Brynle Williams
Brynle Williams yw llefarydd yr wrthblaid ar Faterion Gwledig ac mae wedi bod yn aelod Ceidwadol o Lywodraeth y Cynulliad ers 2003
Mae wedi bod yn ffermio ers pan oedd yn 15 oed ac mae’n aelod o Bwyllgor Da Byw Cymdeithas y Sioe Amaethyddol Frenhinol ers dros 20 mlynedd ac mae’n feirniad ceffylau a chobiau rhyngwladol.
Raymond Walters
Brodor y Ddyffryn Aman yw Raymond Walters. Graddiodd mewn Economeg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1978 cyn cychwyn ar yrfa mewn bancio am gyfnod o 30 o flynyddoedd, yng Nghymru a Chanoldir Lloegr, yn bennaf gyda banc HSBC ac yn ddiweddarach gan y National Australia Bank Group. Mae ganddo gefndir a phrofiad eang a helaeth mewn bancio masnachol mewn cyd-destun trefol a gwledig ac mae wedi ymwneud â busnesau â throsiant o hyd at £100m.
Treuliodd hefyd gyfnod fel Cyfarwyddwr Cyllid i Mudiad Ysgolion Meithrin Cyf, ac mae’n Drysorydd/ Ymddiriedolwr gyda Chwmni Theatr Arad Goch. Mae hefyd yn gyn-Drysorydd Urdd Gobaith Cymru ac ef yw Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Nawdd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ceredigion 2010.
Mae Raymond hefyd yn weithgar gyda Canolfan y Morlan yn Aberystwyth, sydd bellach wedi ennill ei blwyf fel canolfan gymunedol fywiog sy’n ganolog i fywyd canol tre Aberystwyth.
Marc Phillips
Mae Marc Phillips wedi gweithio erioed yn y sectorau gwirfoddol a datblygu cymunedol. Fel Pennaeth BBC Plant Mewn Angen yng Nghymru mae ganddo brofiad helaeth fel dosbarthwr grantiau.
Bu’n Brif Weithredwr Tenovus ac yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Dyfed yn dilyn cyfnod fel Swyddog Datblygu’r Urdd ym Morgannwg Ganol.
Mae’n aelod cyfredol o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn gyn ymddiriedolwr ar Chwarae Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae’n gyn-Gadeirydd Plaid Cymru ac fe enwebwyd ef gan y Blaid i Gonfensiwn Cymru Gyfan.
Mick Bates
Mae Mick Bates yn cyfawyddwr Sefydliad Vestri. Mae’n cynrychioli Maldwyn yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Cafodd Mick ei ddenu i Faldwyn gan ei wraig Buddug, sy’n frodor o’r ardal ac yn ferch i deulu o ffermwyr lleol. Mae’n byw mewn ffermdy sy’n dyddio ‘nôl i’r ail ganrif ar bymtheg, yng nghefngwlad Canolbarth Cymru yn Nyffryn Banw. Mae’n ffermio 200 o erwau yn Llanfair Caereinion ger Y Trallwng.
Mae Mick wedi sefydlu ei hun fel llysgennad datblygiadau cynaliadwy dros Gymru ac ef a sefydlodd NASEG, y grŵp egni cynaliadwy yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Yn ei oriau hamdden mae’n ymlacio wrth gwrando ar gerddoriaeth Bob Dylan.
